Pwy yw NatCen?
50 mlynedd o brofiad
Mae NatCen wedi bod yn cyflawni ymchwil cymdeithasol o ansawdd uchel ers dros 40 mlynedd. Rydym yn sefydliad dielw, yn annibynnol o unrhyw adrannau llywodraeth a phleidiau gwleidyddol.
Datgelu barnau go iawn
Rydym yn cael ein comisiynu gan lywodraeth ac elusennau i ddatgelu barnau gwirioneddol pobl ym Mhrydain heddiw. Defnyddir yr hyn a ddysgwn i hysbysu polisi ac i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ar draws y wlad.
Helpu'r genedl
Rydyn ni'n elusen ac mae gwybodaeth o arolygon a gyflawnir gennym ar gael i'r cyhoedd. Felly mae nid yn unig yn helpu ein cleientiaid, ond mae'n cael ei defnyddio gan sefydliadau eraill sy'n ceisio gwella bywyd yn y Deyrnas Unedig.