Pam ydw i wedi fy newis?
O ble y cawsom eich manylion cyswllt
Pan gofrestroch ar gyfer y cynnig, fe gytunoch y gellid cysylltu â chi i ddibenion ymchwil. O ganlyniad, trosglwyddwyd eich manylion cyswllt ymlaen atom ni.
Pam eich bod mor bwysig i ni
Mae'n bwysig iawn i ni, ac i Lywodraeth Cymru sydd wedi comisiynu'r astudiaeth, bod ein hymchwil yn cynrychioli barn cymaint o rieni â phosibl.
Mae cymryd rhan yn gyfle i ddweud wrth bobl ddylanwadol sy'n gwneud y penderfyniadau mewn llywodraeth beth ydych chi wir yn ei feddwl.
Mae profiadau pawb yn wahanol, ac er mwyn gwneud cyfiawnder â'r profiadau hynny rydym angen i gymaint ohonoch â phosibl gymryd rhan.