Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru

Bydd Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru’n casglu data am ymddygiad teithio pobl yng Nghymru a’u hagweddau tuag at deithio.

Click here to read this page in English: Wales National Travel Survey | National Centre for Social Research

Gair am yr astudiaeth

Cafodd Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru ei ddatblygu i helpu Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i ddeall trafnidiaeth a theithio yng Nghymru a siapio dyfodol trafnidiaeth.

Beth bynnag yw eich amgylchiadau, p’un a ydych chi’n cerdded neu’n olwyno, yn beicio, yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel bws neu drên neu’n mynd mewn car, mae teithio yn rhan sylfaenol o’n bywydau. P’un a yw eich trip ar gyfer gwaith, hamdden neu i fynd i ffwrdd am y penwythnos, mae’r teithiau hyn yn cyfrannu at y ffordd y mae Cymru gyfan yn gweithredu.

Rydym yn cysylltu â chartrefi drwy Gymru gyfan i ofyn iddyn nhw gymryd rhan mewn peilot ar-lein a chymryd y cyfle hwn i rannu eu safbwyntiau ar drafnidiaeth yng Nghymru.

Pam ddylwn i gymryd rhan a beth fydd raid i mi ei wneud?

Os byddwch yn cymryd rhan ar-lein byddwch yn sicrhau fod barn a phrofiadau pobl fel chi’n cael eu deall. Does dim rhaid i chi gymryd rhan. Bydd yr astudiaeth yn gofyn cwestiynau amdanoch chi, sut rydych chi’n dewis teithio, a’r teithiau rydych wedi penderfynu eu gwneud yn ddiweddar.

Pam gefais i fy newid i gymryd rhan? 

Rydym wedi dewis eich cyfeiriad ar hap o restr o’r holl gyfeiriadau cartref yng Nghymru, a gedwir gan Swyddfa’r Post. Y rheswm am hyn yw i sicrhau bod yr arolwg yn cynrychioli’r wlad gyfan. Ni fydd y canfyddiadau’n dangos pwy ydych chi na neb yn eich cartref.

Pwy sy’n gwneud yr ymchwil?

Mae NatCen yn gwneud yr arolwg ar ran Trafnidiaeth Cymru. NatCen yw asiantaeth ymchwil cymdeithasol annibynnol fwyaf Prydain. Ers mwy na 50 mlynedd, rydym wedi gweithio gydag elusennau, llywodraeth a sefydliadau academaidd i ganfod beth mae pobl yn ei feddwl mewn gwirionedd am faterion mawr. Rydym yn annibynnol ar holl adrannau’r llywodraeth a’r holl bleidiau gwleidyddol, a gallwch weld rhagor yma.

Oes raid i mi ateb y cwestiynau i gyd?

Chi sy’n dewis a ydych am gymryd rhan ai peidio, a does dim rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau nad ydych eisiau eu hateb. Gallwch roi’r gorau i’r arolwg unrhyw bryd.

A yw fy atebion yn cael eu cadw’n gyfrinachol?

Byddwn yn trin y wybodaeth a rowch i ni’n gwbl gyfrinachol o dan y ddeddfwriaeth ddiogelu data gyfredol. Defnyddir y canlyniadau a gesglir at ddibenion ystadegol yn unig ac ni fyddent yn dangos pwy ydych chi na’ch teulu. Ni fyddwch byth yn derbyn unrhyw bost sothach o ganlyniad i siarad â ni.

Ni fyddwn yn pasio eich enw llawn a’ch cyfeiriad i unrhyw un y tu allan i’r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol heb eich caniatâd chi, a dydyn ni byth yn pasio eich manylion ymlaen i sefydliadau eraill at ddibenion masnachol.

I ganfod rhagor am y ffordd y byddwn yn rheoli eich data, ewch i:
Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru

Hysbysiad preifatrwydd

Gallwch ddarllen yr hysbysiad preifatrwydd yma

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni ar ein llinell Rhadffôn: 0800 652 9296 neu anfonwch e-bost i ATCC@natcen.ac.uk